Beth sydd ymlaen
Mae Porth Eirias yn cynnal clybiau swper a nosweithiau arbennig yn rheolaidd sy’n cynnwys bwydlenni ecsgliwsif, sy’n cynnig profiadau bwyta unigryw tra’n arddangos y gorau o gynnyrch lleol a thymhorol mewn lleoliad arfordirol ymlaciol.
Digwyddiadau syddi ddod
Hydref 29fed Noson tan gwyllt
Ymunwch â ni ar y Promenâd Bae Colwyn am 7pm ar 29 Hydref i fwynhau arddangosfa ysblennydd!
Byddwn ar agor ar gyfer cinio o 5.30pm, gan roi’r cyfle perffaith i chi sicrhau bwrdd gyda golygfa rheng flaen, wrth fwynhau danteithion ein bwydlen à la carte.
Bydd ein Caffi hefyd ar agor, yn gweini amrywiaeth o fwyd a diodydd poeth ac oer, gan gynnwys bap bysedd pysgod poeth a seidr cynnes.
Mae archebu bwrdd yn y bwyty ymlaen llaw yn hanfodol — sicrhewch eich bwrdd drwy ddefnyddio’r ddolen isod.
hydref 31fed Matt Tebbutt a Bryn yn portheirias
Bydd y cogydd a chyflwynydd teledu Matt Tebbutt yn ymuno â Bryn am un noson yn unig! Cyfarfododd Matt a Bryn gyntaf wrth weithio i Marco Pierre White yn 1996.
Bydd Matt a Bryn yn cydweithio i greu bwydlen pedwar cwrs arbennig, gyda chanapés a siampên wrth gyrraedd.
Pris y tocynnau yw £145 y pen. Oherwydd gofyn mawr mae ail dyddiad wedi ei drefnu.
Hydref 31ain - WEDI GWERTHU ALLAN
Tachwedd 1af - WEDI GWERTTU ALLAN
I fod y cyntaf i wybod am ein digwyddiadau danysgrifwch i ein cylchlythur!
tachwedd 27ain a 28ain Platiau o Odette's
Ymunwch â ni am ar Dachwedd 27ain a 28ain, wrth i ni ddathlu rhai o hoff brydau a platiau mwyaf poblogaidd Odette's.
Am 16 mlynedd fythgofiadwy, bu Bryn yn diffinio byd bwyta Llundain fel Prif Gogydd a Pherchennog Odette’s yn Primrose Hill. Nawr, mae’r blasau chwedlonol hynny ar eu ffordd i’r darn bach hwn o baradwys ar arfordir Gogledd Cymru!
Mwynhewch fwydlen arbennig pedwar cwrs, gyda chanapés wrth gyrraedd a pharau gwin wedi’u dewis yn ofalus drwy gydol y noson.
Nos Sadwrn 28ain - wedi gwerthu allan
Tocynnau: £145 y pen
Mae’r tocynnau Nos Wener 27ain ar werth yn defnyddio y ddolen isod.
Cynnig arbennig pastai y gaeaf
Trwy gydol Ionawr a Chwefror rydym yn cynnig pei rhannu i 2 gydag lysiau tymhorol ychwanegol am £37.50. Gallwch hefyd fwynhau gwydraid bach o win tŷ am £5.50 yn unig.
Cinio Llun - Gwener o Ionawr 4ydd
Ionawr 25fed penwythnos Santes Dwynwen
Santes Dwynwen, ein fersiwn Gymraeg o Ddydd San Ffolant. Tywysoges Gymreig y bedwaredd ganrif a weddïodd am wir gariadon i gael gwell lwc na hi.
Dathlwch ddiwrnod cariadus gyda bwyd unigryw, awyrgylch rhamantus, a phrofiad bythgofiadwy.
Bwydlen arbennig £44 ar gael Ionawr 23fed, 24fed a 25fed.
Bwydlen a la carte hefyd ar gael.
chwefror 12fed - 14fed Penwythnos San ffolant
Mwynhewch leoliad gwych ar gyfer rhamant. Ymlaciwch gyda cinio neu swper i ddau gyda golygfeydd bendigedig o'r bae.
Dathlwch gariad gyda'n bwydlen San Ffolant wedi'i greu yn arbennig, sydd ar gael ar Chewfror 13fed a dydd Sul 14eg.
Bwydlen arbennig i ddod yn fuan £44 yr person
Bwydlen a la carte hefyd ar gael.
chwefror 28fed Parti Gŵyl Ddewi
Noson o gerddoriaeth, hwyl a choginio.
Parti Gŵyl Ddewi Chwefror 28ain o 6.30pm.
Ymunwch â ni am noson arbennig yng nghwmni Bryn Williams a'i ffrindiau, gyda cherddoriaeth byw, cwmni gwych, a bwydydd bythgofiadwy.
Mwynhewch gynnyrch ein cogyddion ar eu gorau wrth iddynt arddangos eu creadigrwydd coginio drwy ddetholiad o blatiau bach cain.
Gwobrau ocsiwn na all arian fyth eu prynu, elw i elusen.
Mwy o wybodaeth i dilyn yn fuan.
Chwefror 28ain Cinio rhost a chor
Cinio a chan gyda cor lleol Chwefror 28ain o 12.30yp.
Am ddathliad hamddenol, ymunwch â ni am ginio dydd Sul arbennig â gynhelir gan Bryn Williams.
Mwynhewch brynhawn cynnes a chartrefol yn dathlu'r gorau oll o fwyd a diod Cymreig, wedi ei baratoi'n a'i weini'n hwyliog.
Cinio arbennig £44
Byrddau ar gael i'w harchebu yn fuan.
Mawrth 7fed Sul y mamau
Dathlwch Sul y Mamau gyda ni a mwynhewch fwyd lleol eithriadol, awyrgylch hamddenol, a golygfeydd godidog o bae.
Cinio arbennig yn cynnwys bara a snac wrth gyraedd a paned o de neu goffi £44