Ar hyd lannau euraidd Porth Eirias, mae Bryn Williams yn dathlu treftadaeth coginio Cymreig, drwy greu prydau bwyd bistro yn grefftus gan ddefnyddio'r cynhwysion tymhorol, lleol gorau oll.
Bistro. Bar. Ger y traeth.
Ychydig gamau o’r môr a’r tywod ym Mhorth Eirias, mae bistro Bryn Williams yn cynnig bwyd modern, mewn awyrgylch ymlaciol gyda golygfeydd arfordirol gogoneddus.
Mae ein bwydlen yn dathlu y gorau o gynnyrch Cymreig, mor lleol a phosib. Seren y sioe ydy bwyd môr - corgimwch, penfras, cregyn gleision a mwy - wedi eu gweini mewn arddull bistro o’n cegin agored.
Gwobrau
Deiliaid balch o wobr Bwyta AA y Flwyddyn dros Gymru 2019/20 a Michelin Bib Gourmand am dair mlynedd yn olynnol - yn cydnabod bwyd arbennig am brisiau rhesymol.
Teras Tu Allan
Mae ein teras awyr agored ar agor yn ddyddiol (yn ddibynnol ar y tywydd), gyda mynediad drwy’r Bistro yn unig. Mae croeso i gŵn ar y teras. Does dim rhaid archebu bwrdd tu allan o flaen llaw, dim ond troi fyny.


BWYDLENNI TYMHOROL
Mae ein bwydlenni yn dathlu’r cynhwysion lleol gorau, wedi eu curadu’n dreiddgar i adlewyrchu rhythm y tymhorau gyda chreadigrwydd medrus.



LLEOLIAD
Bryn Williams ym Mhorth Eirias
Y Promenâd, Bae Colwyn, Conwy
Gogledd Cymru, LL29 8HH
T: 01492 533700
E: reservations@portheirias.com
ARCHEBU BWRDD
Ar gyfer archebu bwrdd, ewch at OpenTable neu ein ffonio ni ar 01492 533700
ORIAU AGOR
Brecwast: Yn ddyddiol, 9:30yb - 11:30yb
Cinio: Yn ddyddiol, 12yp - 2:30yp
Swper: Dydd Gwener & Dydd Sadwrn, 5:30yh - 8:30yh






